Celfyddydau Cynaliadwy Cymru
rhannu...dysgu...rhwydweithio
Menter i alluogi cynaliadwyedd yn y celfyddydau yng Nghymru
Mae Celfyddydau Cynaliadwy Cymru yn fenter newydd sydd yn deillio o brofiadau ac ysfa ar draws rhannau eang o sector y celfyddydau. Ein cynllun yw i ddatblygu rhwydwaith a sefydliad cynorthwyol i ysgogi a chreu modd i’r celfyddydau yng Nghymru i ddod yn sector sero carbon, cynaliadwy ac yn amgylcheddol gyfrifol.
Fel rhwydwaith aelodau, bydd sefydliadau ac artistiaid yn medru elwa o gymorth pwrpasol a dulliau cyfunedig wrth wynebu'r heriau a’r cyfleoedd a ddaw o’r uchelgais i weithio mewn ffyrdd cynaliadwy. Mi fydden ni’n meithrin rhannu gwybodaeth a dysgu, sgiliau ac adnoddau, a bydden yn dathlu llwyddiannau.
Byddwn yn croesawu aelodau o bob sector perfformio a chelfyddyd gain.
Trwy gydweithio gyda’r rhwydwaith bydden yn darganfod yr heriau a’r cyfleoedd y rydym yn ei rhannu, ac yn defnyddio ein llais cyfunol i lobïo'r llywodraeth a sefydliadau phreifat a cyhoeddus eraill i hybu newid.
Mi fydd Celfyddydau Cynaliadwy Cymru yn ysgafn ei cham, yn darparu cynghor ymarferol i’n haelodau ar ffyrdd i wella, ond hefyd gyda’r medru i ehangu i ateb gofynion ac anghenion ein haelodau, o gymorth ar bolisi a strategaeth, i asesiadau effaith, hyfforddi, rheolaeth prosiect a mwy.
Rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r prosiect a’i ddatblygwyr.
Os hoffech glywed rhagor ac os ydych yn hapus i rannu eich cefnogaeth mewn egwyddor i’r fenter yma, gwerthfawrogwn clywed gennych chi.