Beth yw Celfyddydau Cynaliadwy Cymru?
Tyfodd Celfyddydau Cynaliadwy Cymru allan o'r rheidrwydd cynyddol i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth.
Mae cynaliadwyedd bellach wrth galon polisi yng Nghymru, yn y llywodraeth a’r sector preifat. Mae pawb bellach yn cytuno ei fod yn fater brys sy'n gofyn am feddwl ac ymddygiad newydd.
Gall y celfyddydau, ac yn arbennig y celfyddydau perfformio a ffilm/teledu, fod yn euog o ddefnyddio swm sylweddol o ynni, cynhyrchu gwastraff ac amodau gwaith gwael. Ond efallai bod gan y celfyddydau gyfraniad unigryw i’w wneud tuag at adeiladu dyfodol cynaliadwy, fel y’i diffinnir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).
Mae yna gynseiliau gwych yn y DU o sefydliadau celfyddydol cynaliadwy sy’n cyflawni cynnydd clodwiw – er enghraifft SAIL yn Leeds, GMAST ym Manceinion, a Creative Carbon yn yr Alban. Rydym yn bwriadu creu rhywbeth tebyg, yng Nghymru.
Ein gweledigaeth yw rhwydwaith newydd a fydd yn:
- adnodd ar gyfer sgiliau, gwybodaeth ac astudiaethau achos
- llais ymgyrchu ac yn ganolbwynt gosod nodau
- hwyluso rhwydweithio a chydweithio
- darparu hyfforddiant a chyngor
- sicrhau gostyngiadau i aelodau ar gyfer gwasanaethau/cyflenwadau
Byddwn yn gosod amcanion 10 mlynedd ar gyfer sector y celfyddydau megis:
- cyflawni sero carbon wrth gynhyrchu - a gweithio gyda'r egwyddor o 'fewnbwyso' nid gwrthbwyso
- bodloni egwyddorion economi gylchol gyda dim gwastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi
- gwella cyfalaf naturiol a dim llygredd aer, tir a dŵr
- galluogi cyd-greu gyda chymunedau lleol, gan feithrin llesiant a chyfranogiad cynhwysol
- hwyluso'r celfyddydau fel ysgogwr newid cymdeithasol ac ymddygiadol
Nôl i'r hafan
Pwy sy'n ymwneud â'i ddatblygiad cynnar?
Roedd cychwynwyr y rhwydwaith i gyd yn rhan o dîm cynhyrchu GALWAD, a rhyngddynt mae ganddynt brofiad helaeth yn y sector:
Jacob Gough
Cyfarwyddwr cynhyrchu, gweithrediadau a gweithredol profiadol, gyda sgiliau sy'n cynnwys rheoli polisi, strategaeth a rheolaeth ariannol yn y celfyddydau am dros 20 mlynedd. Ef oedd Cyfarwyddwr Gweithredol GALWAD.
Bethan Davies
Rheolwr Prosiect a Rheolwr Cynhyrchu a Gweithrediadau yn gweithio yn y celfyddydau creadigol, gan ganolbwyntio'n bennaf ar berfformio byw a theatr mewn mannau anhraddodiadol a'r awyr agored. Hi oedd Pennaeth Cynhyrchu GALWAD.
Simon Michaels
Cynghorydd cynaliadwyedd, gydag arbenigedd penodol mewn cynllunio amgylcheddol, asesu a lliniaru effaith, busnes cyfrifol, bwyd a llesiant. Ef oedd Cyd-reolwr Cynaladwyedd ac Effeithiau ar gyfer GALWAD.
Ruth Stringer
Dylunydd set a gwisgoedd ac eiriolwr dros gynaliadwyedd yn y diwydiant perfformio, gan weithredu economi gylchol wrth gyrchu a gwaredu deunyddiau set a gwisgoedd. Hi oedd Cyd-reolwr Cynaladwyedd ac Effeithiau ar gyfer GALWAD.